
Mae Qualsafe Awards wedi cyhoeddi yn ddiweddar bod modd i’r rhai sy’n dymuno bod yn barafeddyg gwblhau eu cyfres flaengar o gymwysterau gofal cyn-ysbyty fel rhan o raglen a gymeradwywyd gan Gyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) mewn cyn lleied â dwy flynedd, yn hytrach na chwblhau cynllun gradd gwyddor parafeddyg dros dair blynedd.
Mae’r llwybr newydd hwn, a fydd yn gweddnewid y diwydiant, wedi’i rannu’n 4 cam i ganiatáu dysgwyr i sicrhau’r yrfa maen nhw ei eisiau ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw. Bydd dysgwyr yn dechrau trwy gwblhau'r Dystysgrif QA Lefel 3 mewn Gofal Brys i Ymatebwyr Cyntaf (RQF), cyn cwblhau’r Dystysgrif QA Lefel 4 mewn Gofal Brys i Ymatebwyr Cyntaf (RQF) ac yna'r Diploma QA Lefel 5 mewn Gofal Brys i Ymatebwyr Cyntaf a Gofal mewn Argyfwng (RQF) ym mlwyddyn 1. Yna gallant gwblhau'r Diploma QA Lefel 6 mewn Arfer Parafeddygol (RQF) ym mlwyddyn 2, fel rhan o raglen a gymeradwywyd gan Gyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) i'w galluogi i wneud cais i ddod yn barafeddyg HCPC.