Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi dogfen ddefnyddiol: "Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch - canllaw cryno" INDG345 (rev1) sydd ar gael ar eu gwefan (Saesneg / Cymraeg).
Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddarparu pa bynnag wybodaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant a goruchwyliaeth sy'n angenrheidiol i sicrhau iechyd a diogelwch eich gweithwyr yn y gwaith, cyn belled ag sy'n rhesymol ymarferol.
Mae Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn nodi sefyllfaoedd lle mae hyfforddiant iechyd a diogelwch yn arbennig o bwysig, er enghraifft pan fydd pobl yn dechrau gweithio, wrth ddod i gysylltiad â risgiau newydd neu gynyddol a lle gallai sgiliau presennol fod wedi mynd yn rhydlyd neu angen eu diweddaru.
Mae Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Hyfforddiant ar gyfer Cyflogaeth) 1990 yn sicrhau bod dysgwyr sy'n gwneud profiad gwaith wedi’u gwarchod gan y gyfraith iechyd a diogelwch.
Gall ein cyrsiau eich helpu i gyflawni eich rhwymedigaethau cyfreithiol o ran iechyd a diogelwch yn y gweithle, diogelwch tân, diogelwch bwyd a chodi a chario, yn ogystal â chymorth cyntaf.

