Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith
Ffeithiau allweddol
Cost
£70 y person
(Cyfraddau grŵp ar gael)
Hyd y cwrs
Un diwrnod
Dilysrwydd
Tair blynedd
Isafswm oedran
14 oed
Lawrlwytho taflen ffeithiau'r cwrs
Dyfarniad Lefel 3 QA mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith (RQF)
BYDD SEILIAU CADARN YN HANFODION CYMORTH CYNTAF yn aml yn ddigon i ymdrin â'r risgiau sy'n bresennol yn y rhan fwyaf o weithleoedd risg isel.
Bydd aelodau’r cwrs yn dysgu am y canlynol ac yn ymarfer y canlynol:
-
CPR
-
sut i ddefnyddio AED
-
rheoli rhywun sydd wedi’i anafu ac sy’n anymwybodol
-
delio â thagu
-
gwaedu a thrawiadau
-
trin rhywun sydd wedi’i anafu ac sydd mewn sioc
Mae'r cwrs hyfforddi undydd hwn yn arwain at gymhwyster cymorth cyntaf a reoleiddir gan Ofqual, sy'n golygu y gall cyflogwyr osgoi gwiriadau hir ynglŷn â diwydrwydd dyladwy. Arbedwch amser ac arian – dewch aton ni yn gyntaf.
Mae gan hyfforddwyr y cyrsiau hyn gymwysterau da a llawer o brofiad. Dewch i ddysgu sgiliau newydd ar gwrs hyfforddi pleserus gyda Norwal.
Cysylltwch â ni os nad yw'r dyddiadau isod yn addas, neu os hoffech inni ddarparu’r cwrs hwn ar gyfer eich sefydliad yn eich lleoliad chi.